Cyn hir, bydd Estyn, Arolygiaeth Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, yn arolygu gwasanaethau addysg yn yr awdurdod lleol. Hoffem glywed eich barn am eu gwasanaethau.
Gallai hyn gynnwys:
a] help y mae disgyblion ac ysgolion yn ei gael i gyflawni deilliannau da,
b] cymorth i blant a phobl ifanc fregus neu sydd ag anghenion penodol,
c] darpariaeth a chymorth i blant cyn iddynt ddechrau’r ysgol ar sail amser llawn
ch] cymorth i bobl ifanc barhau ag addysgu neu hyfforddiant pan fyddant yn gadael yr ysgol a
d] darparu gwasanaethau cymorth ieuenctid a gweithgareddau hamdden, i bobl ifanc 11 i 25 oed, yn y cymunedau lle maen nhw’n byw.
Mae eich ymatebion yn bwysig i ni a byddant yn aros yn gyfrinachol. Rydym yn cadw eich atebion yn ddiogel ar systemau cyfrifiadurol Estyn. Gallwch ddysgu rhagor am sut rydym ni’n cadw ac yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol trwy edrych ar ein hysbysiad preifatrwydd: Datganiad preifatrwydd | Estyn (llyw.cymru)
Mae’r arolwg hwn i bobl sy’n byw a/neu yn gweithio yn eich awdurdod lleol.
Os oes gennych bryder o natur diogelu, cysylltwch â ni ar diogelu@estyn.llyw.cymru neu ffoniwch ni ar 02920 446482.
Diolch yn fawr am gymryd rhan.